2 Cronicl 18:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Atebodd Michea, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, yr hyn a ddywed fy Nuw wrthyf a lefaraf.”

14. Daeth at y brenin, a dywedodd y brenin wrtho, “Michea, a awn ni i Ramoth-gilead i ryfel, ai peidio?” A dywedodd wrtho, “Ewch i fyny a llwyddo; fe'u rhoddir hwy yn eich llaw.”

15. Ond dywedodd y brenin wrtho, “Pa sawl gwaith yr wyf wedi dy dynghedu i beidio â dweud dim ond y gwir wrthyf yn enw'r ARGLWYDD?”

16. Yna dywedodd Michea:“Gwelais Israel oll wedi eu gwasgaru ar y bryniaufel defaid heb fugail ganddynt.A dywedodd yr ARGLWYDD, ‘Nid oes feistr ar y rhain;felly bydded iddynt ddychwelyd adref mewn heddwch.’ ”

2 Cronicl 18