2 Cronicl 17:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. wedi eu rhestru yn ôl eu tylwythau fel hyn. O Jwda, swyddogion ar uned o fil: Adna yn ben, a chydag ef dri chan mil o wroniaid;

15. y nesaf ato ef, Jehohanan, y capten, gyda dau gant wyth deg o filoedd;

16. yna Amaseia fab Sichri, a oedd yn gwasanaethu'r ARGLWYDD o'i wirfodd, gyda dau gan mil o wroniaid.

17. O Benjamin: y gwron Eliada, gyda dau gan mil yn cario bwa a tharian;

18. yna Jehosabad, gyda chant wyth deg o filoedd yn barod i ryfel.

2 Cronicl 17