12. Wele, y mae Duw gyda ni i'n harwain, a'i offeiriaid â thrwmpedau yn galw brwydr yn eich erbyn. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid, oherwydd ni fyddwch yn llwyddo.”
13. Anfonodd Jeroboam rai o'u hamgylch i ymguddio ac ymosod arnynt o'r tu ôl; felly, tra oedd rhai o flaen Jwda, yr oedd y lleill mewn cuddfan y tu cefn iddynt.
14. Troes gwŷr Jwda, a gweld y byddai'n rhaid iddynt ymladd o'r tu blaen ac o'r tu ôl;
15. yna galwasant ar yr ARGLWYDD, ac fe ganodd yr offeiriaid y trwmpedau, a bloeddiodd gwŷr Jwda. Pan floeddiodd gwŷr Jwda, trawodd Duw Jeroboam a holl Israel o flaen Abeia a Jwda.
16. Ffodd yr Israeliaid o flaen gwŷr Jwda, ac fe roddodd Duw hwy yn eu llaw.
17. Lladdodd Abeia a'i filwyr lawer iawn ohonynt; syrthiodd yn gelain bum can mil o wŷr dethol Israel.
18. Darostyngwyd yr Israeliaid y pryd hwnnw, a chafodd byddin Jwda fuddugoliaeth am iddynt ymddiried yn ARGLWYDD Dduw eu hynafiaid.
19. Ymlidiodd Abeia ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno ddinasoedd Bethel, Jesana ac Effraim a'u pentrefi.
20. Ni lwyddodd Jeroboam i adennill ei nerth yn ystod teyrnasiad Abeia; trawyd ef gan yr ARGLWYDD, a bu farw.
21. Ond cryfhaodd Abeia; priododd bedair ar ddeg o wragedd, a chenhedlu dau fab ar hugain ac un ar bymtheg o ferched.