2 Cronicl 12:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Cymerodd ddinasoedd caerog Jwda a chyrhaeddodd Jerwsalem.

5. Yna daeth y proffwyd Semaia at Rehoboam a thywysogion Jwda, a oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem o achos Sisac, a dywedodd wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Yr ydych chwi wedi cefnu arnaf fi; felly yr wyf finnau wedi cefnu arnoch chwi a'ch rhoi yn llaw Sisac.’ ”

6. Yna fe ymostyngodd tywysogion Israel a'r brenin, a dweud, “Cyfiawn yw'r ARGLWYDD.”

7. A phan welodd yr ARGLWYDD iddynt ymostwng, daeth gair yr ARGLWYDD at Semaia a dweud, “Am iddynt ymostwng ni ddifethaf hwy, ond rhoddaf gyfle iddynt ddianc, ac ni thywelltir fy llid ar Jerwsalem trwy law Sisac.

2 Cronicl 12