2 Corinthiaid 8:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. ond eich gwneud yn gyfartal. Yn yr amser presennol hwn y mae'r hyn sydd dros ben gennych chwi yn cyflenwi eu diffyg hwy, fel y bydd i'r hyn sydd dros ben ganddynt hwy gyflenwi eich diffyg chwi maes o law. Cyfartaledd yw'r diben.

15. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oedd gormod gan y sawl a gasglodd lawer,na phrinder gan y sawl a gasglodd ychydig.”

16. Diolch i Dduw, yr hwn a roddodd yng nghalon Titus yr un ymroddiad drosoch.

17. Oherwydd nid yn unig gwrandawodd ar ein hapêl, ond gymaint yw ei ymroddiad fel y mae o'i wirfodd ei hun yn ymadael i fynd atoch.

2 Corinthiaid 8