2 Corinthiaid 8:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Fe garem ichwi wybod, gyfeillion, am y gras a roddwyd gan Dduw yn yr eglwysi ym Macedonia.

2. Er iddynt gael eu profi'n llym gan orthrymder, gorlifodd cyflawnder eu llawenydd a dyfnder eu tlodi yn gyfoeth o haelioni ynddynt.

3. Yr wyf yn dyst iddynt roi yn ôl eu gallu, a'r tu hwnt i'w gallu, a hynny o'u gwirfodd eu hunain,

4. gan ddeisyf arnom yn daer iawn am gael y fraint o gyfrannu tuag at y cymorth i'r saint—

5. ac aethant ymhellach na dim y gobeithiais amdano, gan eu rhoi eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau yn ôl ewyllys Duw.

2 Corinthiaid 8