2 Corinthiaid 6:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. yn ein profiadau o'r chwip, o garchar ac o derfysg; yn ein llafur, ein diffyg cwsg a'n newyn;

6. yn ein purdeb, ein gwybodaeth, ein goddefgarwch a'n caredigrwydd; yn yr Ysbryd Glân ac yn ein cariad diragrith;

7. yng ngair y gwirionedd ac yn nerth Duw, trwy ddefnyddio arfau cyfiawnder yn y llaw dde a'r llaw chwith,

8. doed parch, doed amarch, doed anghlod, doed clod. Twyllwyr y'n gelwir, a ninnau'n eirwir;

9. rhai dinod, a ninnau'n enwog; yn marw, ac eto byw ydym; dan gosb, ond heb gael ein lladd;

10. dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.

2 Corinthiaid 6