2 Corinthiaid 3:4-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Dyna'r fath hyder sydd gennym trwy Grist tuag at Dduw.

5. Nid ein bod yn ddigonol ohonom ein hunain; ni allwn briodoli dim i ni ein hunain; o Dduw y daw ein digonolrwydd ni,

6. oherwydd ef a'n gwnaeth ni'n ddigonol i fod yn weinidogion cyfamod newydd, nid cyfamod y gair ysgrifenedig, ond cyfamod yr Ysbryd. Oherwydd lladd y mae'r gair ysgrifenedig, ond rhoi bywyd y mae'r Ysbryd.

7. Gweini marwolaeth oedd swydd y Gyfraith a'i geiriau cerfiedig ar feini, ond gan gymaint gogoniant ei chyflwyno, ni allai'r Israeliaid syllu ar wyneb Moses o achos y gogoniant oedd arno, er mai rhywbeth i ddiflannu ydoedd.

8. Os felly, pa faint mwy fydd gogoniant gweinidogaeth yr Ysbryd?

9. Oherwydd os oedd gogoniant yn perthyn i weinidogaeth sy'n condemnio, rhagorach o lawer mewn gogoniant yw gweinidogaeth sy'n cyfiawnhau.

10. Yn wir, gwelir yma ogoniant a fu, wedi colli ei ogoniant yn llewyrch gogoniant rhagorach.

11. Oherwydd os mewn gogoniant y cyflwynwyd yr hyn oedd i ddiflannu, gymaint mwy yw gogoniant yr hyn sydd i aros!

12. Gan fod gennym ni felly'r fath obaith, yr ydym yn hy iawn,

13. ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu.

2 Corinthiaid 3