2 Corinthiaid 3:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Hyd y dydd hwn, pryd bynnag y darllenir Cyfraith Moses, y mae'r gorchudd yn gorwedd ar eu meddwl.

16. Ond pryd bynnag y mae rhywun yn troi at yr Arglwydd, fe dynnir ymaith y gorchudd.

17. Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.

18. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.

2 Corinthiaid 3