2 Corinthiaid 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Penderfynais beidio â dod atoch unwaith eto mewn tristwch.

2. Oherwydd os wyf fi'n eich tristáu, pwy fydd yna i'm llonni i ond y sawl a wnaed yn drist gennyf fi?

3. Ac ysgrifennais y llythyr hwnnw rhag imi ddod atoch, a chael tristwch gan y rhai a ddylai roi llawenydd imi. Y mae gennyf hyder amdanoch chwi oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwithau i gyd.

4. Oherwydd ysgrifennais atoch o ganol gorthrymder mawr a gofid calon, ac mewn dagrau lawer, nid i'ch tristáu chwi ond er mwyn ichwi wybod mor helaeth yw'r cariad sydd gennyf tuag atoch.

2 Corinthiaid 2