2 Corinthiaid 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Penderfynais beidio â dod atoch unwaith eto mewn tristwch.

2. Oherwydd os wyf fi'n eich tristáu, pwy fydd yna i'm llonni i ond y sawl a wnaed yn drist gennyf fi?

3. Ac ysgrifennais y llythyr hwnnw rhag imi ddod atoch, a chael tristwch gan y rhai a ddylai roi llawenydd imi. Y mae gennyf hyder amdanoch chwi oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwithau i gyd.

2 Corinthiaid 2