2 Corinthiaid 11:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Hyd yn oed os wyf yn anfedrus fel siaradwr, nid wyf felly mewn gwybodaeth; ym mhob ffordd ac ar bob cyfle yr ydym wedi gwneud hyn yn eglur i chwi.

7. A wneuthum drosedd wrth fy narostwng fy hun er mwyn ichwi gael eich dyrchafu, trwy bregethu ichwi Efengyl Duw yn ddi-dâl?

8. Ysbeiliais eglwysi eraill trwy dderbyn cyflog ganddynt er mwyn eich gwasanaethu chwi.

9. A phan oeddwn gyda chwi ac mewn angen, ni bûm yn faich ar neb, oherwydd diwallodd y cyfeillion a ddaeth o Facedonia fy angen. Ym mhob peth fe'm cedwais, ac fe'm cadwaf, fy hun rhag bod yn dreth arnoch.

10. Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof, ni roddir taw ar fy ymffrost hwn yn ardaloedd Achaia.

11. Pam? Am nad wyf yn eich caru? Fe ŵyr Duw fy mod.

2 Corinthiaid 11