2 Corinthiaid 11:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. O na baech yn fy ngoddef yn fy nhipyn ffolineb! Da chwi, goddefwch fi!

2. Oherwydd yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun, gan i mi eich dyweddïo i un gŵr, eich cyflwyno yn wyryf bur i Grist.

3. Ond fel y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y mae arnaf ofn y llygrir eich meddyliau chwi yn yr un modd, a'ch troi oddi wrth ddidwylledd a phurdeb eich ymlyniad wrth Grist.

2 Corinthiaid 11