2 Brenhinoedd 9:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr oedd gwyliwr yn sefyll ar dŵr yn Jesreel, a gwelodd fintai Jehu yn dod, a dywedodd, “Rwy'n gweld mintai.” Dywedodd Joram, “Dewis farchog, a'i anfon i'w cyfarfod, i ofyn a yw popeth yn iawn.”

18. Yna fe aeth marchog i'w cyfarfod a dweud, “Fel hyn y mae'r brenin yn gofyn; ‘A yw popeth yn iawn?’ ” Ac meddai Jehu, “Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn.” Cyhoeddodd y gwyliwr, “Y mae'r negesydd wedi cyrraedd atynt, ond nid yw'n dod yn ôl.”

19. Yna anfonwyd ail farchog, a phan gyrhaeddodd atynt, dywedodd, “Fel hyn y dywed y brenin; ‘A yw popeth yn iawn?’ ” Atebodd Jehu, “Pa wahaniaeth i ti a yw popeth yn iawn? Tyrd i'm canlyn.”

2 Brenhinoedd 9