2 Brenhinoedd 9:11-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, “A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?” Atebodd yntau, “Gwyddoch am y dyn a'i siarad.”

12. “Paid â'th gelwydd,” meddent, “da thi, dywed wrthym.” Ac atebodd, “Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.’ ”

13. Yna cipiodd pob un ddilledyn a'i roi dano ar ben y grisiau, a chwythu utgorn a dweud, “Jehu sydd frenin!”

14. A gwnaeth Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi gynllwyn yn erbyn Joram.Yr oedd Joram a holl Israel ar wyliadwriaeth yn Ramoth-gilead rhag Hasael brenin Syria;

2 Brenhinoedd 9