2 Brenhinoedd 9:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Galwodd y proffwyd Eliseus ar un o'r proffwydi a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y ffiol olew hon yn dy law a dos i Ramoth-gilead.

2. Wedi iti gyrraedd, edrych yno am Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi;

3. yna dos a chymer ef allan o blith ei gymrodyr a mynd ag ef i ystafell fewnol, a chymryd y ffiol olew a'i harllwys ar ei ben a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.” Yna agor y drws a ffo heb oedi.’ ”

4. Aeth y llanc o broffwyd i Ramoth-gilead.

5. A phan gyrhaeddodd, yr oedd swyddogion y fyddin yn eistedd gyda'i gilydd, a dywedodd, “Y mae gennyf neges i ti, syr.” Gofynnodd Jehu, “I ba un ohonom?” “I ti, syr,” meddai yntau.

2 Brenhinoedd 9