2 Brenhinoedd 9:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Galwodd y proffwyd Eliseus ar un o'r proffwydi a dweud wrtho, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer y ffiol olew hon yn dy law a dos i Ramoth-gilead.

2. Wedi iti gyrraedd, edrych yno am Jehu fab Jehosaffat, fab Nimsi;

3. yna dos a chymer ef allan o blith ei gymrodyr a mynd ag ef i ystafell fewnol, a chymryd y ffiol olew a'i harllwys ar ei ben a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.” Yna agor y drws a ffo heb oedi.’ ”

4. Aeth y llanc o broffwyd i Ramoth-gilead.

5. A phan gyrhaeddodd, yr oedd swyddogion y fyddin yn eistedd gyda'i gilydd, a dywedodd, “Y mae gennyf neges i ti, syr.” Gofynnodd Jehu, “I ba un ohonom?” “I ti, syr,” meddai yntau.

6. Cododd a mynd i mewn; yna tywalltodd y llanc yr olew ar ben Jehu, a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel, pobl yr ARGLWYDD.

7. Taro dŷ Ahab, dy feistr, fel y caf ddial ar Jesebel am waed fy ngweision y proffwydi, a holl weision yr ARGLWYDD.

8. Difethir holl dŷ Ahab, a distrywiaf bob gwryw sydd gan Ahab yn Israel, caeth neu rydd.

9. A gwnaf dŷ Ahab fel tŷ Jeroboam fab Nebat a thŷ Baasa fab Aheia.

10. Ac am Jesebel, bydd y cŵn yn ei bwyta yn rhandir Jesreel, heb neb i'w chladdu.” Yna fe agorodd y drws a ffoi.

11. Pan ddaeth Jehu allan at weision eraill ei feistr, holodd un, “A yw popeth yn iawn? Pam y daeth yr ynfyd yna atat?” Atebodd yntau, “Gwyddoch am y dyn a'i siarad.”

12. “Paid â'th gelwydd,” meddent, “da thi, dywed wrthym.” Ac atebodd, “Dyma'r hyn a ddywedodd wrthyf: ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwy'n dy eneinio'n frenin ar Israel.’ ”

2 Brenhinoedd 9