2 Brenhinoedd 8:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram fab Ahab, brenin Israel, daeth Ahaseia fab Jehoram, brenin Jwda, yn frenin.

26. Dwy ar hugain oed oedd Ahaseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am flwyddyn. Athaleia oedd enw ei fam, wyres i Omri brenin Israel.

27. Dilynodd yr un llwybr â thŷ Ahab, a gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel tŷ Ahab, am ei fod yn perthyn trwy briodas i dŷ Ahab.

28. Aeth gyda Joram fab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth-gilead, ac anafodd y Syriaid Joram.

2 Brenhinoedd 8