2 Brenhinoedd 7:3-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Y tu allan i'r porth yr oedd pedwar dyn gwahanglwyfus, ac meddent wrth ei gilydd, “Pam aros yma nes inni farw?

4. Pe byddem yn penderfynu mynd i'r ddinas, byddem yn marw yno am fod newyn yn y ddinas; a marw y byddwn os arhoswn yma. Dewch, mentrwn i wersyll Syria. Os arbedant ni, cawn fyw; os lladdant ni, byddwn farw.”

5. Felly gyda'r nos aethant draw i wersyll y Syriaid; ond wedi iddynt gyrraedd cwr y gwersyll, nid oedd yr un Syriad yno.

6. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi peri i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau a meirch a byddin gref, nes bod pawb yn dweud, “Y mae brenin Israel wedi cyflogi brenhinoedd yr Hethiaid a'r Eifftiaid i ymosod arnom.”

7. Dyna pam yr oeddent wedi ffoi gyda'r nos, a gadael eu pebyll a'u meirch a'u hasynnod a'r gwersyll fel yr oedd, a ffoi am eu heinioes.

8. Pan ddaeth y gwahangleifion hyn i gwr y gwersyll, aethant i mewn i un o'r pebyll, a bwyta ac yfed; ac yna aethant ag arian ac aur a dilladau oddi yno a'u cuddio; wedyn dod yn ôl a mynd i babell arall a dwyn o honno a'i guddio.

9. Yna dyma hwy'n dweud wrth ei gilydd, “Nid ydym yn gwneud y peth iawn; dydd o newyddion da yw heddiw, a ninnau'n dweud dim. Os arhoswn hyd olau dydd, byddwn ar fai; felly gadewch inni fynd a dweud ym mhalas y brenin.”

10. Aethant a galw ar borthorion y ddinas a dweud, “Buom yng ngwersyll y Syriaid, ond nid oedd unrhyw un yno, na sôn am neb—dim ond ambell geffyl ac asyn wedi ei rwymo, a'r pebyll wedi eu gadael fel yr oeddent.”

11. Gwaeddodd y porthorion a dweud wrth y rhai oedd i mewn ym mhalas y brenin.

12. Yna cododd y brenin gefn nos, ac meddai wrth ei weision, “Mi ddywedaf wrthych beth y mae'r Syriaid yn ei wneud i ni; y maent yn gwybod bod newyn arnom, ac y maent wedi mynd allan o'r gwersyll i guddio, gan feddwl, ‘Pan ddônt allan o'r ddinas, daliwn hwy'n fyw, a mynd i mewn i'r ddinas.’ ”

13. Atebodd un o'i weision, “Beth am gymryd pump o'r meirch sydd ar ôl, ac anfon rhywrai inni gael gweld? Achos, os arhoswn yn y ddinas, fe fydd holl liaws Israel sydd ar ôl yr un fath â'r holl lu o Israeliaid sydd wedi darfod.”

14. Wedi dewis dau farchog, anfonodd y brenin hwy ar ôl byddin Syria, gyda'r siars, “Ewch i edrych.”

2 Brenhinoedd 7