2 Brenhinoedd 7:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Atebodd un o'i weision, “Beth am gymryd pump o'r meirch sydd ar ôl, ac anfon rhywrai inni gael gweld? Achos, os arhoswn yn y ddinas, fe fydd holl liaws Israel sydd ar ôl yr un fath â'r holl lu o Israeliaid sydd wedi darfod.”

14. Wedi dewis dau farchog, anfonodd y brenin hwy ar ôl byddin Syria, gyda'r siars, “Ewch i edrych.”

15. Aethant ar eu hôl cyn belled â'r Iorddonen, ac yr oedd y ffordd ar ei hyd yn llawn o ddillad a chelfi wedi eu taflu i ffwrdd gan y Syriaid yn eu brys. Yna dychwelodd y negeswyr a dweud wrth y brenin.

16. Wedi hynny aeth y bobl allan ac ysbeilio gwersyll y Syriaid, a chaed pwn o flawd am sicl a dau bwn o haidd am sicl, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

2 Brenhinoedd 7