1. Ond dywedodd Eliseus, “Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua'r adeg yma yfory gwerthir ym mhorth Samaria bwn o flawd am sicl, a dau bwn o haidd am sicl.”
2. Atebwyd Eliseus gan y swyddog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei fraich: “Hyd yn oed pe bai'r ARGLWYDD yn agor ffenestri yn y nefoedd, a allai hyn ddigwydd?” Meddai yntau, “Cei ei weld â'th lygaid dy hun, ond ni chei fwyta ohono.”
3. Y tu allan i'r porth yr oedd pedwar dyn gwahanglwyfus, ac meddent wrth ei gilydd, “Pam aros yma nes inni farw?
4. Pe byddem yn penderfynu mynd i'r ddinas, byddem yn marw yno am fod newyn yn y ddinas; a marw y byddwn os arhoswn yma. Dewch, mentrwn i wersyll Syria. Os arbedant ni, cawn fyw; os lladdant ni, byddwn farw.”
5. Felly gyda'r nos aethant draw i wersyll y Syriaid; ond wedi iddynt gyrraedd cwr y gwersyll, nid oedd yr un Syriad yno.
6. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi peri i wersyll y Syriaid glywed trwst cerbydau a meirch a byddin gref, nes bod pawb yn dweud, “Y mae brenin Israel wedi cyflogi brenhinoedd yr Hethiaid a'r Eifftiaid i ymosod arnom.”
7. Dyna pam yr oeddent wedi ffoi gyda'r nos, a gadael eu pebyll a'u meirch a'u hasynnod a'r gwersyll fel yr oedd, a ffoi am eu heinioes.
8. Pan ddaeth y gwahangleifion hyn i gwr y gwersyll, aethant i mewn i un o'r pebyll, a bwyta ac yfed; ac yna aethant ag arian ac aur a dilladau oddi yno a'u cuddio; wedyn dod yn ôl a mynd i babell arall a dwyn o honno a'i guddio.
9. Yna dyma hwy'n dweud wrth ei gilydd, “Nid ydym yn gwneud y peth iawn; dydd o newyddion da yw heddiw, a ninnau'n dweud dim. Os arhoswn hyd olau dydd, byddwn ar fai; felly gadewch inni fynd a dweud ym mhalas y brenin.”
10. Aethant a galw ar borthorion y ddinas a dweud, “Buom yng ngwersyll y Syriaid, ond nid oedd unrhyw un yno, na sôn am neb—dim ond ambell geffyl ac asyn wedi ei rwymo, a'r pebyll wedi eu gadael fel yr oeddent.”
11. Gwaeddodd y porthorion a dweud wrth y rhai oedd i mewn ym mhalas y brenin.