2 Brenhinoedd 4:41-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Dywedodd yntau, “Dewch â blawd.” Ac wedi iddo'i daflu i'r crochan, dywedodd, “Rhannwch i'r dynion, iddynt fwyta.” Ac nid oedd dim niweidiol yn y crochan.

42. Daeth gŵr o Baal-salisa â bara blaenffrwyth i ŵr Duw, yn cynnwys ugain torth haidd a thywysennau o ŷd newydd.

43. Dywedodd, “Rhowch hwy i'r dynion i'w bwyta.” Ond dywedodd ei wasanaethwr, “Sut y gallaf rannu hyn rhwng cant o ddynion?” Ond atebodd, “Rho hwy i'r dynion i'w bwyta, oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Bydd bwyta a gadael gweddill.”

44. A gosododd y torthau o'u blaen, a chawsant fwyta a gadael gweddill, yn ôl gair yr ARGLWYDD.

2 Brenhinoedd 4