2 Brenhinoedd 4:32-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Aeth Eliseus i mewn i'r tŷ, a dyna lle'r oedd y bachgen yn farw, ac wedi ei roi i orwedd ar ei wely ef.

33. Caeodd Eliseus y drws arnynt ill dau, a gweddïo ar yr ARGLWYDD.

34. Yna aeth at y plentyn a gorwedd drosto, a rhoi ei geg ar ei geg, a'i lygaid ar ei lygaid, a'i ddwylo ar ei ddwylo, ac ymestyn drosto nes i gnawd y plentyn gynhesu.

35. Yna cododd a cherdded unwaith yn ôl ac ymlaen yn y tŷ, cyn mynd yn ôl ac ymestyn arno. Tisiodd y bachgen seithwaith, ac agor ei lygaid.

36. Yna galwodd Eliseus ar Gehasi a dweud, “Galw'r Sunamees.”

37. Wedi iddo'i galw, ac iddi hithau ddod, dywedodd, “Cymer dy fab.” Syrthiodd hi wrth ei draed a moesymgrymu i'r llawr cyn cymryd ei mab a mynd allan.

38. Dychwelodd Eliseus i Gilgal pan oedd newyn yn y wlad. Yr oedd nifer o broffwydi dan ei ofal, a dywedodd wrth ei was, “Gosod y crochan mawr ar y tân a berwa gawl i'r proffwydi.”

39. Yr oedd un ohonynt wedi mynd allan i'r maes i gasglu llysiau, a chafodd winwydden wyllt, a chasglodd goflaid llawn o rawn gwylltion oddi arni, heb wybod beth oeddent, a dod a'u bwrw i'r crochan cawl.

40. Tywalltwyd y cawl i'r proffwydi ei fwyta, a chyn gynted ag iddynt brofi o'r cawl, yr oeddent yn gweiddi ac yn dweud, “O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan.” Ac ni allent ei fwyta.

41. Dywedodd yntau, “Dewch â blawd.” Ac wedi iddo'i daflu i'r crochan, dywedodd, “Rhannwch i'r dynion, iddynt fwyta.” Ac nid oedd dim niweidiol yn y crochan.

2 Brenhinoedd 4