2 Brenhinoedd 4:29-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Yna dywedodd Eliseus wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer fy ffon, a dos; os gweli rywun, paid â'i gyfarch, ac os bydd rhywun yn dy gyfarch di, paid ag aros i ateb. Rho fy ffon ar wyneb y bachgen.”

30. Ond dywedodd mam y bachgen, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, nid wyf fi am d'adael.” Cododd yntau a mynd yn ôl gyda hi.

31. Yr oedd Gehasi wedi mynd o'u blaen, a rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen, ond ni ddaeth na sŵn na chyffro. Felly aeth yn ôl i gyfarfod Eliseus a dweud wrtho, “Ni ddeffrôdd y bachgen.”

32. Aeth Eliseus i mewn i'r tŷ, a dyna lle'r oedd y bachgen yn farw, ac wedi ei roi i orwedd ar ei wely ef.

33. Caeodd Eliseus y drws arnynt ill dau, a gweddïo ar yr ARGLWYDD.

34. Yna aeth at y plentyn a gorwedd drosto, a rhoi ei geg ar ei geg, a'i lygaid ar ei lygaid, a'i ddwylo ar ei ddwylo, ac ymestyn drosto nes i gnawd y plentyn gynhesu.

35. Yna cododd a cherdded unwaith yn ôl ac ymlaen yn y tŷ, cyn mynd yn ôl ac ymestyn arno. Tisiodd y bachgen seithwaith, ac agor ei lygaid.

36. Yna galwodd Eliseus ar Gehasi a dweud, “Galw'r Sunamees.”

37. Wedi iddo'i galw, ac iddi hithau ddod, dywedodd, “Cymer dy fab.” Syrthiodd hi wrth ei draed a moesymgrymu i'r llawr cyn cymryd ei mab a mynd allan.

2 Brenhinoedd 4