2 Brenhinoedd 4:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Yna dywedodd Eliseus wrth Gehasi, “Clyma dy wisg am dy ganol, cymer fy ffon, a dos; os gweli rywun, paid â'i gyfarch, ac os bydd rhywun yn dy gyfarch di, paid ag aros i ateb. Rho fy ffon ar wyneb y bachgen.”

30. Ond dywedodd mam y bachgen, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, nid wyf fi am d'adael.” Cododd yntau a mynd yn ôl gyda hi.

31. Yr oedd Gehasi wedi mynd o'u blaen, a rhoi'r ffon ar wyneb y bachgen, ond ni ddaeth na sŵn na chyffro. Felly aeth yn ôl i gyfarfod Eliseus a dweud wrtho, “Ni ddeffrôdd y bachgen.”

32. Aeth Eliseus i mewn i'r tŷ, a dyna lle'r oedd y bachgen yn farw, ac wedi ei roi i orwedd ar ei wely ef.

2 Brenhinoedd 4