2 Brenhinoedd 4:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Cododd hwnnw ef a mynd ag ef at ei fam; bu'n eistedd ar ei glin hyd hanner dydd, ac yna bu farw.

21. Cymerodd ef i fyny, a'i roi i orwedd ar wely gŵr Duw; yna aeth allan, a chau'r drws.

22. Wedyn galwodd ei gŵr a dweud, “Anfon un o'r gweision ac un o'r asennod ataf, fel y gallaf frysio at ŵr Duw ac yn ôl.”

23. Dywedodd ef, “Pam yr ei di ato heddiw? Nid yw'n newydd-loer nac yn saboth.” “Mae popeth yn iawn,” meddai hithau.

2 Brenhinoedd 4