2 Brenhinoedd 4:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. dywedodd wrthi, “Yr adeg hon yn nhymor y gwanwyn byddi'n cofleidio mab.” Atebodd hithau, “Na, syr, paid â dweud celwydd wrth dy lawforwyn a thithau'n ŵr Duw.”

17. Ond beichiogodd y wraig ac ymddŵyn mab yr adeg honno yn nhymor y gwanwyn, fel y dywedodd Eliseus wrthi.

18. Wedi i'r bachgen dyfu, aeth allan ryw ddiwrnod at ei dad i blith y medelwyr,

19. a gwaeddodd ar ei dad, “Fy mhen, fy mhen!” Dywedodd yntau wrth y gwas, “Dos ag ef at ei fam.”

20. Cododd hwnnw ef a mynd ag ef at ei fam; bu'n eistedd ar ei glin hyd hanner dydd, ac yna bu farw.

21. Cymerodd ef i fyny, a'i roi i orwedd ar wely gŵr Duw; yna aeth allan, a chau'r drws.

22. Wedyn galwodd ei gŵr a dweud, “Anfon un o'r gweision ac un o'r asennod ataf, fel y gallaf frysio at ŵr Duw ac yn ôl.”

2 Brenhinoedd 4