13. dywedodd Eliseus wrtho, “Dywed wrthi, ‘Dyma ti wedi mynd i'r holl drafferth yma er ein mwyn; beth sydd i'w wneud drosot ti? A oes eisiau dweud gair drosot wrth y brenin neu wrth bennaeth y fyddin?’ ” Ond dywedodd hi: “Ymysg fy nhylwyth yr wyf fi'n byw.”
14. Pan ofynnodd Eliseus, “Beth sydd i'w wneud drosti?” atebodd Gehasi, “Wel, nid oes ganddi fab, ac y mae ei gŵr yn hen.”
15. Dywedodd, “Galw hi.” Wedi iddo ei galw, a hithau'n sefyll yn y drws,
16. dywedodd wrthi, “Yr adeg hon yn nhymor y gwanwyn byddi'n cofleidio mab.” Atebodd hithau, “Na, syr, paid â dweud celwydd wrth dy lawforwyn a thithau'n ŵr Duw.”
17. Ond beichiogodd y wraig ac ymddŵyn mab yr adeg honno yn nhymor y gwanwyn, fel y dywedodd Eliseus wrthi.
18. Wedi i'r bachgen dyfu, aeth allan ryw ddiwrnod at ei dad i blith y medelwyr,
19. a gwaeddodd ar ei dad, “Fy mhen, fy mhen!” Dywedodd yntau wrth y gwas, “Dos ag ef at ei fam.”
20. Cododd hwnnw ef a mynd ag ef at ei fam; bu'n eistedd ar ei glin hyd hanner dydd, ac yna bu farw.
21. Cymerodd ef i fyny, a'i roi i orwedd ar wely gŵr Duw; yna aeth allan, a chau'r drws.
22. Wedyn galwodd ei gŵr a dweud, “Anfon un o'r gweision ac un o'r asennod ataf, fel y gallaf frysio at ŵr Duw ac yn ôl.”
23. Dywedodd ef, “Pam yr ei di ato heddiw? Nid yw'n newydd-loer nac yn saboth.” “Mae popeth yn iawn,” meddai hithau.
24. Cyfrwyodd yr asen a dywedodd wrth ei gwas, “Gyr ymlaen, paid ag arafu er fy mwyn i, os na ddywedaf wrthyt.”