2 Brenhinoedd 4:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Rwyf am inni wneud llofft fechan ar y mur, a gosod yno wely a bwrdd a chadair a chanhwyllbren, iddo gael troi i mewn yno pan ddaw atom.”

11. Un diwrnod pan ddaeth yno a mynd i mewn i'r llofft i orwedd,

12. dywedodd wrth ei was Gehasi, “Galw'r Sunamees.” Wedi iddo'i galw ac iddi hithau ddod ato,

13. dywedodd Eliseus wrtho, “Dywed wrthi, ‘Dyma ti wedi mynd i'r holl drafferth yma er ein mwyn; beth sydd i'w wneud drosot ti? A oes eisiau dweud gair drosot wrth y brenin neu wrth bennaeth y fyddin?’ ” Ond dywedodd hi: “Ymysg fy nhylwyth yr wyf fi'n byw.”

14. Pan ofynnodd Eliseus, “Beth sydd i'w wneud drosti?” atebodd Gehasi, “Wel, nid oes ganddi fab, ac y mae ei gŵr yn hen.”

15. Dywedodd, “Galw hi.” Wedi iddo ei galw, a hithau'n sefyll yn y drws,

2 Brenhinoedd 4