2 Brenhinoedd 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Apeliodd gwraig un o'r proffwydi at Eliseus a dweud, “Bu farw dy was, fy ngŵr, ac yr oedd yn ddyn duwiol, fel y gwyddost; ac y mae'r echwynnwr wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethion iddo.”

2. Dywedodd Eliseus wrthi, “Beth a gaf ei wneud i ti? Dywed wrthyf beth sydd gennyt yn dy dŷ.” Atebodd hithau, “Nid oes gan dy lawforwyn ddim yn y tŷ ond ystenaid o olew.”

3. Dywedodd Eliseus, “Dos a benthyg llestri gan dy holl gymdogion yn y stryd; paid â bod yn brin o lestri gweigion.

2 Brenhinoedd 4