2 Brenhinoedd 3:4-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.

5. Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.

6. Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel.

7. Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.”

8. A holodd, “Pa ffordd yr awn ni?” Atebodd yntau, “Ffordd anialwch Edom.”

9. Felly aeth brenin Israel, brenin Jwda, a brenin Edom ar daith gylch o saith diwrnod, ac nid oedd dŵr i'r fyddin nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn.

10. Ac meddai brenin Israel, “Och bod yr ARGLWYDD wedi galw'r tri brenin hyn allan i'w rhoi yn llaw brenin Moab!”

11. Yna dywedodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd i'r ARGLWYDD, fel y gallwn ymofyn â'r ARGLWYDD drwyddo?” Atebodd un o weision brenin Israel, “Y mae Eliseus fab Saffat, a fu'n tywallt dŵr dros ddwylo Elias, yma.”

12. Dywedodd Jehosaffat, “Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef.” Ac aeth brenin Israel a Jehosaffat a brenin Edom draw ato.

13. Dywedodd Eliseus wrth frenin Israel, “Beth sydd a wnelom ni â'n gilydd? Dos at broffwydi dy dad a'th fam.” Dywedodd brenin Israel wrtho, “Nage; yr ARGLWYDD sydd wedi galw'r tri brenin hyn i'w rhoi yn llaw Moab.”

14. Atebodd Eliseus, “Cyn wired â bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat.

15. Ond yn awr, dewch â thelynor ataf.”

16. Ac fel yr oedd y telynor yn canu, daeth llaw yr ARGLWYDD arno, a dywedodd, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Gwneir y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.

17. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni welwch na gwynt na glaw; eto llenwir y dyffryn hwn â dŵr, a chewch chwi a'ch eiddo a'ch anifeiliaid yfed.

18. A chan mor rhwydd yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fe rydd Moab yn eich llaw hefyd.

2 Brenhinoedd 3