Pan glywodd pobl Moab fod y brenhinoedd wedi dod i ryfel yn eu herbyn, galwyd i'r gad bob un oedd yn ddigon hen i drin arfau; ac yr oeddent yn sefyll ar y goror.