2 Brenhinoedd 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth Joram fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda.

2. Teyrnasodd am ddeuddeng mlynedd, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad cymaint â'i dad a'i fam, oherwydd bwriodd allan y golofn Baal a wnaeth ei dad.

3. Ond glynodd yn ddiwyro wrth bechod Jeroboam fab Nebat, yr un a barodd i Israel bechu.

4. Perchen defaid oedd Mesa brenin Moab, a byddai'n talu i frenin Israel gan mil o ŵyn a gwlân can mil o hyrddod.

5. Ond wedi marw Ahab, gwrthryfelodd brenin Moab yn erbyn brenin Israel.

6. Ac ar unwaith aeth y Brenin Jehoram o Samaria i restru holl Israel.

7. Anfonodd hefyd at Jehosaffat brenin Jwda a dweud, “Y mae brenin Moab wedi gwrthryfela yn f'erbyn; a ddoi di gyda mi i ymladd yn erbyn Moab?” Dywedodd yntau, “Dof gam a cham gyda thi, dyn am ddyn, a march am farch.”

8. A holodd, “Pa ffordd yr awn ni?” Atebodd yntau, “Ffordd anialwch Edom.”

9. Felly aeth brenin Israel, brenin Jwda, a brenin Edom ar daith gylch o saith diwrnod, ac nid oedd dŵr i'r fyddin nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn.

2 Brenhinoedd 3