2 Brenhinoedd 24:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.

10. Yr adeg honno daeth gweision Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gosod gwarchae ar y ddinas.

11. Yna, tra oedd ei weision yn gwarchae arni, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y ddinas,

12. ac aeth Jehoiachin brenin Jwda allan gyda'i fam a'i weision a'i swyddogion a'i weinyddwyr at frenin Babilon. Cymerodd brenin Babilon ef yn garcharor yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad,

13. a chludodd holl drysorau tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r brenin oddi yno, a dryllio'r holl gelfi aur a wnaeth Solomon brenin Israel yn nheml yr ARGLWYDD, fel y rhagddywedodd yr ARGLWYDD.

14. Caethgludodd ddeng mil o Jerwsalem, yr holl dywysogion a'r gwŷr cefnog, a phob crefftwr a gof hefyd, heb adael neb ond y tlotaf o bobl y wlad.

15. Aeth â Jehoiachin i Fabilon, a hefyd dwyn yn gaeth o Jerwsalem i Fabilon ei fam a'i wragedd a'i weinyddwyr a phendefigion y wlad.

2 Brenhinoedd 24