2 Brenhinoedd 24:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Bu farw Jehoiacim, a daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.

7. Ni ddaeth brenin yr Aifft allan o'i wlad mwyach, oherwydd yr oedd brenin Babilon wedi cipio'r cwbl a fu'n eiddo brenin yr Aifft rhwng nant yr Aifft ac afon Ewffrates.

8. Deunaw mlwydd oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am dri mis yn Jerwsalem. Nehusta merch Elnathan o Jerwsalem oedd enw ei fam.

9. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn union fel y gwnaeth ei ragflaenwyr.

10. Yr adeg honno daeth gweision Nebuchadnesar brenin Babilon i Jerwsalem a gosod gwarchae ar y ddinas.

11. Yna, tra oedd ei weision yn gwarchae arni, daeth Nebuchadnesar brenin Babilon i ymosod ar y ddinas,

2 Brenhinoedd 24