2 Brenhinoedd 24:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Anfonodd yr ARGLWYDD finteioedd o Galdeaid ac o Syriaid a Moabiaid ac Ammoniaid i ymosod ar Jwda a'i difa, yn ôl yr hyn yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy ei weision y proffwydi.

3. Yn sicr, trwy orchymyn yr ARGLWYDD y digwyddodd hyn i Jwda, i'w symud o'i olwg am yr holl bechodau a wnaeth Manasse,

4. a'r gwaed dieuog a dywalltodd; llanwodd Jerwsalem â gwaed dieuog, ac nid oedd yr ARGLWYDD yn fodlon maddau.

5. Am weddill hanes Jehoiacim, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

6. Bu farw Jehoiacim, a daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le.

2 Brenhinoedd 24