2 Brenhinoedd 23:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.

16. Wrth droi ymaith, sylwodd Joseia ar y fynwent oedd yno ar y mynydd, ac anfonodd a chymryd esgyrn o'r beddau a'u llosgi ar yr allor a'i halogi, a hynny'n cyflawni gair yr ARGLWYDD, a gyhoeddodd gŵr Duw pan ragfynegodd y pethau hyn.

17. Wedyn gofynnodd, “Beth yw'r gofeb acw a welaf?” Atebodd pobl y ddinas ef, “Dyna fedd gŵr Duw, a ddaeth o Jwda a rhagfynegi'r pethau hyn yr wyt ti wedi eu gwneud ag allor Bethel.”

18. Yna dywedodd wrthynt am adael llonydd iddo ac nad oedd neb i ymyrryd â'i esgyrn. Felly arbedwyd ei esgyrn, a hefyd esgyrn y proffwyd a ddaeth o Samaria.

2 Brenhinoedd 23