2 Brenhinoedd 22:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wyth mlwydd oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am un ar ddeg ar hugain o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jedida merch Adaia o Boscath oedd enw ei fam.

2. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, a dilyn llwybr ei dad Dafydd yn gwbl ddiwyro.

2 Brenhinoedd 22