2 Brenhinoedd 21:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Deuddeng mlwydd oed oedd Manasse pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am hanner cant a phump o flynyddoedd yn Jerwsalem. Heffsiba oedd enw ei fam.

2. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra'r cenhedloedd a yrrodd yr ARGLWYDD allan o flaen yr Israeliaid.

3. Ailadeiladodd yr uchelfeydd a ddinistriodd ei dad Heseceia, a chododd allorau i Baal a gwneud delw o Asera, fel y gwnaeth Ahab brenin Israel, ac ymgrymodd i holl lu'r nef a'u haddoli.

4. Adeiladodd allorau yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani, “Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.”

5. Cododd allorau i holl lu'r nef yn nau gyntedd y deml.

6. Parodd i'w fab fynd trwy dân, ac arferodd hudoliaeth a swynion, a bu'n ymhél ag ysbrydion a dewiniaid. Yr oedd yn ymroi i wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i'w ddigio.

7. Gwnaeth ddelw o Asera a'i gosod yn y deml y dywedodd yr ARGLWYDD amdani wrth Ddafydd a'i fab Solomon, “Yn y tŷ hwn ac yn Jerwsalem, y lle a ddewisais allan o holl lwythau Israel, yr wyf am osod fy enw yn dragwyddol.

8. Ni throf Israel allan mwyach o'r tir a roddais i'w hynafiaid, ond iddynt ofalu gwneud fel y gorchmynnais iddynt yn y gyfraith a roes fy ngwas Moses iddynt.”

9. Eto ni fynnent wrando, ac arweiniodd Manasse hwy i ddrygioni gwaeth na'r eiddo'r cenhedloedd a ddinistriodd yr ARGLWYDD o flaen yr Israeliaid.

10. Yna dywedodd yr ARGLWYDD trwy ei weision y proffwydi,

2 Brenhinoedd 21