2 Brenhinoedd 20:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd yr wyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”

2. Trodd yntau ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dweud:

2 Brenhinoedd 20