2 Brenhinoedd 19:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Ar hyd y ffordd y daeth, fe ddychwel;ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr ARGLWYDD.

34. Byddaf yn darian i'r ddinas hon i'w gwaredu,er fy mwyn fy hun ac er mwyn fy ngwas Dafydd.’ ”

35. A'r noson honno aeth angel yr ARGLWYDD allan a tharo yng ngwersyll Asyria gant a phedwar ugain a phump o filoedd; pan ddaeth y bore cafwyd hwy i gyd yn gelanedd meirwon.

36. Yna aeth Senacherib brenin Asyria i ffwrdd a dychwelyd i Ninefe ac aros yno.

37. Pan oedd yn addoli yn nheml ei dduw Nisroch, daeth ei feibion Adrammelech a Sareser a'i ladd â'r cleddyf, ac yna dianc i wlad Ararat. Daeth ei fab Esarhadon i'r orsedd yn ei le.

2 Brenhinoedd 19