2 Brenhinoedd 18:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu ni, ac ni roir y ddinas hon i afael brenin Asyria.’

31. Peidiwch â gwrando ar Heseceia. Dyma eiriau brenin Asyria: ‘Gwnewch delerau heddwch â mi, dewch allan ataf, ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed o ddŵr ei ffynnon ei hun,

32. nes imi ddyfod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olewydd, olew a mêl; a chewch fyw ac nid marw.’ Peidiwch â gwrando ar Heseceia yn eich hudo trwy ddweud, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.’

33. A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?

2 Brenhinoedd 18