2 Brenhinoedd 18:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y drydedd flwyddyn i Hosea fab Ela brenin Israel, daeth Heseceia fab Ahas brenin Jwda i'r orsedd.

2. Yr oedd yn bump ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Abi merch Sechareia oedd enw ei fam.

3. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Dafydd.

4. Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan.

2 Brenhinoedd 18