8. Cymerodd Ahas yr arian a'r aur oedd ar gael yn nhŷ'r ARGLWYDD ac yng nghoffrau'r palas a'u hanfon yn rhodd i frenin Asyria.
9. Gwrandawodd brenin Asyria arno, a mynd yn erbyn Damascus a'i goresgyn; caethgludodd ei thrigolion i Cir, a lladd Resin.
10. Yna aeth y Brenin Ahas i Ddamascus i gyfarfod Tiglath-pileser brenin Asyria. Gwelodd yno allor, ac anfonodd batrwm ohoni a holl fanylion ei gwneuthuriad at Ureia yr offeiriad.
11. Yna adeiladodd yr offeiriad Ureia allor, yn ôl y manylion a anfonodd y Brenin Ahas o Ddamascus, a'i gwneud yn barod erbyn i'r Brenin Ahas gyrraedd.
12. Pan gyrhaeddodd y brenin o Ddamascus a gweld yr allor, aeth i fyny a nesáu ati.
13. Yna llosgodd ei boethoffrwm a'i fwydoffrwm, a thywallt ei ddiodoffrwm a lluchio gwaed ei heddoffrymau yn erbyn yr allor.
14. Symudodd yr allor bres a arferai fod gerbron yr ARGLWYDD ym mlaen y tŷ, a'i gosod rhwng yr allor newydd a thŷ'r ARGLWYDD, ar ochr ogleddol yr allor honno.