2 Brenhinoedd 15:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Am weddill hanes Asareia a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

7. Bu farw Asareia, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.

8. Yn y ddeunawfed flwyddyn ar hugain i Asareia brenin Jwda, daeth Sechareia fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn Samaria am chwe mis.

9. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaeth ei ragflaenwyr, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

10. Gwnaeth Salum fab Jabes gynllwyn yn ei erbyn ac ymosod arno yn Ibleam a'i ladd, a theyrnasu yn ei le.

2 Brenhinoedd 15