2 Brenhinoedd 15:35-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt. Ef a adeiladodd borth uchaf tŷ'r ARGLWYDD.

36. Am weddill hanes Jotham, a'r hyn a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

37. Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon Resin brenin Syria a Pecach fab Remaleia i ymosod ar Jwda.

38. Bu farw Jotham, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a theyrnasodd ei fab Ahas yn ei le.

2 Brenhinoedd 15