2 Brenhinoedd 15:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Un ar bymtheg oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am hanner cant a dwy o flynyddoedd yn Jerwsalem. Jecholeia o Jerwsalem oedd enw ei fam.

3. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn hollol fel y gwnaeth ei dad Amaseia;

4. er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

2 Brenhinoedd 15