2 Brenhinoedd 15:19-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yn ei ddyddiau ef daeth Pul brenin Asyria yn erbyn y wlad, a rhoddodd Menahem i Pul fil o dalentau arian i ennill ei gefnogaeth a sicrhau'r frenhiniaeth iddo'i hun.

20. Cododd Menahem yr arian oddi ar fonedd Israel er mwyn rhoi i frenin Asyria yn ôl hanner can sicl y pen.

21. Yna dychwelodd brenin Asyria heb aros rhagor yn y wlad. Am weddill hanes Menahem, a'r cwbl a wnaeth, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

22. Bu farw Menahem, a theyrnasodd ei fab Pecaheia yn ei le.

23. Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda, daeth Pecaheia fab Menahem yn frenin ar Israel yn Samaria am ddwy flynedd.

24. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

25. Cynllwyniodd ei is-gapten Pecach fab Remaleia yn ei erbyn, a chyda hanner cant o wŷr o Gilead ymosododd arno yn Samaria, yng nghaer y palas. Lladdodd ef, a theyrnasu yn ei le.

26. Am weddill hanes Pecaheia, a'r cwbl a wnaeth, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.

27. Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda, daeth Pecach fab Remaleia yn frenin ar Israel yn Samaria am ugain mlynedd.

28. Gwnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth bechodau Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu.

29. Yn nyddiau Pecach brenin Israel daeth Tiglath-pileser brenin Asyria a goresgyn Ijon, Abel-beth-maacha, Janoah, Cedes a Hasor, a hefyd Gilead, Galilea a holl diriogaeth Nafftali; a chaethgludodd hwy i Asyria.

30. Gwnaeth Hosea fab Ela gynllwyn yn erbyn Pecach fab Remaleia, ac ymosod arno a'i ladd, a dod yn frenin yn ei le yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham fab Usseia.

31. Am weddill hanes Pecach, a'r cwbl a wnaeth, y mae wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel.

2 Brenhinoedd 15