2 Brenhinoedd 14:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn ail flwyddyn Joas fab Jehoahas brenin Israel, daeth Amaseia fab Jehoas yn frenin ar Jwda.

2. Pump ar hugain oedd ei oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am naw mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Jehoadan o Jerwsalem oedd enw ei fam.

3. Gwnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, er nad fel ei dad Dafydd; gwnaeth yn union fel ei dad Jehoas.

4. Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

2 Brenhinoedd 14