2 Brenhinoedd 1:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Y mae tân wedi disgyn o'r nef a difa'r ddau gapten cyntaf a'u dynion, ond yn awr gad i'm bywyd fod yn werthfawr yn d'olwg.”

15. Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Elias, “Dos i lawr gydag ef; paid â'i ofni.”

16. Yna aeth i lawr gydag ef at y brenin a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am iti anfon negeswyr i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn am ei air?), ni ddoi o'r gwely yr aethost iddo, ond byddi farw.”

17. A marw a wnaeth, yn unol â gair yr ARGLWYDD, a lefarodd Elias. Am nad oedd ganddo fab, daeth Jehoram yn frenin yn ei le, yn ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat, brenin Jwda.

18. Am weddill y pethau a wnaeth Ahaseia, onid ydynt wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

2 Brenhinoedd 1